Clera

Clera

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)

  • 1 hour 18 minutes
    Clera Ebrill 2024
    Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Y mis hwn cawn y pleser o holi Sioned Dafydd, Cyflwynydd Sgorio a Golygydd y flodeugerdd newydd o gerddi am y campau, 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' (Cyhoeddiadau Barddas). Clywn hefyd am arddangosfa o gelf a barddoniaeth sy'n ymateb i waith y bardd mawr o Gwrdistan, Abdulla Goran, yng nhgwmni Alan Deelan, Heledd Fychan AS ac Ifor ap Glyn. Hyn oll a chwmni ffraetha difyr ein Posfeistr, Gruffudd Antur.
    28 April 2024, 11:31 pm
  • 1 hour 14 minutes
    Clera Mawrth 2024
    Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro barddol i gamu ymlaen yn eu cynganeddu. Cawn felly gwmni Non Lewis ac Ana Chiabrando Rees, ill dwy yn rhan o'r 5 disgybl ar gynllun Pencerdd, yn ogystal â Mared Roberts a Leusa Llywelyn o Lenyddiaeth Cymru. Hyn a llawer mwy, mwynhewch.
    23 March 2024, 5:35 pm
  • 1 hour 11 minutes
    Clera Chwefror 2024
    Croeso i bennod y Mis Bach o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon cawn bwnco yng nghwmni mari George a Jo Heyde wrth i ni drafod cyfrol newydd sbon 'Cerddi'r Arfordir' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a hefyd barn dreiddgar Gruffudd Antur ar Linell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis, ac mae gyda ni rai da y mis hwn!! Hyn a llawer mwy! Mwynhewch.
    28 February 2024, 12:10 am
  • 1 hour 25 minutes
    Clera Ionawr 2024
    Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Ym mhennod gynta'r flwyddyn cawn ddwy gerdd arbennig gan y Prif Lenor Sioned Erin Hughes. Byddwn hefyd yn Pwnco am Bwnco! Gwrandewch i wybod mwy a mwynhau pennod arall lawn dop o drin a thrafod barddol.
    27 January 2024, 12:58 am
  • 1 hour 41 minutes
    Clera Rhagfyr 2023
    Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tudur Dylan Jones, Gorffwysgerdd nadoligaidd o gyfrol newydd Rhys Dafis ac englynion newydd sbon gan y Prifardd-Archdderwydd, Mererid Hopwood. Mwynhewch a Nadolig Llawen i chi gyd.
    19 December 2023, 2:32 pm
  • 1 hour 26 minutes
    Clera Tachwedd 2023
    Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr hefyd gyda'r Prifardd-Feuryn Twm Morys am ei gyfrol newydd a ddaeth allan dros yr haf, 'Y Clerwr Olaf' yn ogystal â sgwrs gyda Twm,y Meuryn, a'r Islwyn newydd yn Ymryson Barddas, Gruffudd Antur. Hyn...a mwy!!
    28 November 2023, 11:21 pm
  • 1 hour 15 minutes
    Clera Hydref 2023
    Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad barddol hyna'r byd yn y Gymraeg. Y tro hwn cawn sgwrs hynod ddifyr a theimladwy gyda'r Prifardd Gruffudd Eifion Owen ynglŷn â'i ail gyfrol wych o gerddi, 'Mymryn Rhyddid' (Cyhoeddiadau Barddas). Hefyd cawn gerdd nas cyhoeddwyd o'r blaen o waith y diweddar Archdderwydd, Dafydd Rowlands, a Sioned Dafydd, y cyflwynydd pêl-droed adnabyddus, ac wyres Dafydd Rowlands sy'n ei darllen. Hyn a llawer mwy.
    27 October 2023, 10:43 am
  • 1 hour 43 minutes
    Clera Medi 2023
    Croeso i bennod mis Medi o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd! Yn y bennod hon cawn sgwrs gyda phrifardd y Goron, Rhys Iowerth am ei gerddi arobryn. Hefyd yn trafod gwaith buddugol Alan Llwyd yn y Gadair mae Jo Heyde a'r Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd cawn wrando ar gerddi a enillodd wobrau mewn eisteddfodau i Gareth Lloyd James ac Alan Iwi. Mwynhewch
    29 September 2023, 3:00 pm
  • 1 hour 1 minute
    Clera Awst 2023
    Croeso i bennod mis Awst o Clera, sy'n dechrau ar y gwaith o drin a thrafod a thafoli'r Eisteddfod yng nghwmni'r Prifardd Hywel Griffiths. Byddwn yn gwneud mwy o adladd parthed y steddfod yn y misoedd i ddod. Ond cawn un eitem y tro hwn a recordiwyd ar faes y brifwyl, sef llinell gynganeddol ddamweiniol y maes, gyda Gruffudd Antur.
    31 August 2023, 3:49 pm
  • 1 hour 32 minutes
    Clera Gorffennaf 2023
    Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon, cawn nid un, nid dwy, nid tair a na, nid pedair ond pum cerdd gan feirdd amrywiol, o Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron, i Arwel Rocet, Casi Wyn a Llio Maddocks. Sylw teilwng hefyd i Granogwen yn sgil dadorchuddio'r cerflun newydd arbennig ohoni, ac yn hynod gyffrous hefyd, sgwrs gyda Beirdd Plant Cymru, Casi Wyn, y Bardd Plant cyfredol a Nia Morais, y darpar Fardd Plant. Diolch hefyd i Llio Maddocks am rannu ei thelyneg fendigedig i Granogwen ac i Casi Wyn am y fraint o gael chwarae ei chân hudolus hi a disgyblion Ysgol T Llew Jones i Cranogwen. Hyn oll a mwy!
    21 July 2023, 9:36 pm
  • 1 hour 43 minutes
    Clera Mehefin 2023
    Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.
    30 June 2023, 2:10 pm
  • More Episodes? Get the App
© MoonFM 2024. All rights reserved.