Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™
Mwah ha hahclediad Calan Gaeaf hapus i chi wrandawyr - ydych chi’n barod am hunllef fwyaf rhieni... ffôns yn yr ysgol?!🎃
Yn y bennod yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn taclo heriau ffôns i blant, ein penblwydd yn 14 (so da ni ddigon hen i gael ffôn yn ôl Smartphone Free Schools) a Ffilmdiddim perffaith o addas... ac ardderchog o dwp, Morbius 🦇🧛♂️
Mae na 14 mlynedd o’r nonsens yma wedi pasio, diolch o waelod calon i bawb sy’n gwrando a chyfrannu i’r Haclediad - da chi’n sêr 🤩
Os hoffech chi daflu ceiniog draw i bodlediad hyna’r Gymraeg prynwch Ko-fi i ni 🫶☕
Links:
Tymor newydd, pennod newydd arrr-dderchog o'r Haclediad i chi... yn llawn môr ladron, language models a trips cyffrous i'r swyddfa bost...?!
FfilmDiDdim y mis ydy'r llanast epic 'Cutthroat Island', a diolch enfawr i Matt M a Jamie am eu cyfraniadau ac i Iestyn am lywio'r good ship Haclediad
Links:
Mae’r haf ar ben, ond gadewch i Iestyn, Bryn a Sioned fynd â chi am un fling gwyliau arall...
Mis yma da ni’n cael braw efo Pixel 9 Google, sy’n stwffio tech AI Gemini mewn i bob twll a chornel - a fyddwn ni’n gallu trystio unrhyw lun ffôn byth eto?
Byddwch yn barod am Iest Test arall ar ôl trip i drio’r Vision Pro yn y siop Apple; a’r ffilmdiddim y mis ydy’r ‘camp’waith Y2K Entrapment - Abertawe’s finest yn erbyn y lasers coch na, be gei di well?
Diolch i Iestyn am gynhyrchu’r sioe, i bob un ohonoch sy’n gwrando, a diolch arbennig i chi sy’n cyfrannu’n fisol 😘
Links:
Clasur arall o barti haf sy'n dod i'ch clustiau chi mis yma - ymunwch â Bryn, Sions a Iestyn i ddeifio i'r Seine, teithio i Mexico a malu pob terminal Microsoft welwn ni.
Outage fawr Crowdstrike, search GPT, Archif Ddarlledu Cymru a llawer mwy fydd yn yr epig yma i chi wrando ar y traeth 🏖️
Ffilmdiddim Olympaidd mis yma ydy 'Under Paris' - Sous la Seine... Sharks in Paris baby!
Diolch o galon i bob un ohonoch sy'n cefnogi a gwrando ar y sioe - chi werth medal aur 🥇
Links:
"I am a Haclediad, and this is my manifesto. You may stop this podcast, but you can't stop us all... "
Y flwyddyn yw 1995, mae sbectols bychan a rollerblades yn bla ar ein strydoedd, a mae 'Hackers' yn dy siop video leol... ochenaid dyddiau da.
Yn y bennod yma o'r Haclediad (sy'n brysur troi mewn i Milennial hiraeth cast) bydd Iest, Sions a Bryn yn trafod:
👉cariad Llywodraeth Cymru tuag at AI
👉Sylwadau Mira Murati o Open AI am sut bo rhai swyddi creadigol "ddim angen bodoli"
👉y blockchain yn amddiffyn gwaith artistiaid
👉 ac wrth gwrs - y Ffilmdiddim AmDdim - Hackers (1995) ar Freevee
Diolch eto i bob un ohonoch sy'n gwrando, tanysgrifio a chefnogi - chi werth y byd 🥹
Links:
Yn parhau'r run o benodau melltigedig, trïwch sbotio lle wnaeth Sioned ddiffodd switch trydan ei set up cyfan ynghanol y sioe yma ⚡😅
Bydd Iest, Bryn a Sions yn taclo Cymru/Wales yn y Metaverse, hysbyseb yr ipad Crush ac enshittifiation cynnyrch Apple. Gwyliwch allan am ddial Cupertino ar Iest yn ail hanner y sioe wrth i Face Time crasho bob 5 munud 😖
Ffilm ofnadwy y mis yma ydy campwaith Marky Mark Planet of the Apes (2001) - pwy wyddau pa mor horni allai mygydau rwber fod?
Diolch i bawb sy'n gwrando a chefnogi 🙏❤️
(Recordiwyd y bennod yma cyn implosion Cwis Bob Dydd, neu base ni di cyfro hwna hefyd!)
Links:
Shhhh, peidiwch gadael y gath o'r cŵd am gynnwys Haclediad mis Ebrill... y cyfan allwn ni ddeud ydy bod yr Humane AI pin yn siomedigaeth a mai Argylle ydy o bosib y Ffilmdiddim GWAETHAF hyd yn hyn (yup, waeth na Diana the Musical😨).
Ymunwch â Bryn, Iestyn a Sions i leddfu'ch unigrwydd gyda 2+ awr o tech talk, trafod obsesiwn plant Sioned efo "Death in Paradise" ac awgrymiadau beth DYLE chi wylio (hint: Deffinetli ddim Argylle)
Diolch o galon i bawb sy'n gwrando a chyfrannu - chi wirioneddol yn lejys bob un 🥹
Links:
Pasg hapus... neu ffŵl Ebrill? Penderfynwch chi!
OK, mae 'na newyddion tech i’w gael, ond mae pennod Mis Mawrth yn un Ffilm Di Ddim ffest go iawn... diolch i ffrind y sioe Ross McFarlane, mae Bryn, Sions ac Iest wedi gwylio DUNE (1984). Dy’n ni ddim yn rhy siŵr os ydyn ni’r un bobl ar ei ôl o, ond tiwniwch mewn i glywed
Diolch i bob un ohonoch chi sy’n gwrando, cyfrannu a chefnogi ni bob mis - a diolch arbennig i Iest am waith arwrol golygu a chynhyrchu’r sioe mis yma
🔥"I must not fear. Fear is the mind-killer. Fear is the little-death that brings total obliteration. I will face my fear. I will permit it to pass over me and through me. And when it has gone past I will turn the inner eye to see its path. Where the fear has gone there will be nothing. Only Yr Haclediad will remain."🔥
Links:
“Haul y gwanwyn, gwaeth na gwenwyn” meddai’r Nains, so anwybyddwch y pelydrau egwan yna, ffendiwch flanced a cwtshwch fyny am bennod Chwefror 2024 o’ch hoff podlediad tech-ffilm-sortof!
O’r diwedd byddwn ni’n mynd i’r berllan i weld be di’r ffys am yr Apple Vision Pro, a wedyn syllu’nyn gegrwth ar fideos AI diweddaraf Sora.
I’r rhai ohono chi sy’n joio’r podcast-within-a-podcast, mae’r #FfilmDiDDim yn... ofnadwy?! Mi oedd na LOT o emosiynau cryf wrth drafod (Not your Daddy’s) Robin Hood (2018), y Robin Hood gwaethaf erioed?!
Diolch i bawb sy’n gwrando a chefnogi - chi werth y byd! 🙏😊
Links:
Diwedd mis Ionawr, tywydd ofnadwy, ond mae na gwmni da a ffilm gwael genno ni i'ch cadw i fynd!
Bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod sgandal Horizon, Gladiators, dyfais ddigidol Rabbit (ond dim honna sori), memory hole Bryn am Bwncath ac amserlennu bysus efo AI.
Mae'r ffilmdiddim yn LLANAST o gynhyrchiad gan un o feistri'r genre - Rebel Moon gsn Zack Snyder.
Tybed pa un o'r criw oedd dioddef PMS gwaeth na'r arfer o'i herwydd? 😅
Diolch o galon eto i bawb sy'n gwrando, cyfrannu a rhoi hwb i ni gario mlaen efo'r nonsens llwyr yma 😘
Links:
🎄A dyma ni gyfeillion… gwledd Nadolig swmpus arall gan griw ffyddlon yr Haclediad. Mae’r fideo 10 awr 4k o le tân yn ffrydio as we speak, felly neidiwch mewn a joiwch ddechrau’r gwyliau Nadoig gyda ffilm-di-ddim-am-ddim OFNADWY a thrafodaeth ddeallus* a sensitif* o newyddion y flwyddyn.
Mae Bryn, Iest a Sions yn cael dipyn o ddychryn go iawn wrth i Bard gamddarllen adroddiad S4C, yn cael dipyn o laff ar gelwydd Google Gemini ac yn joio trio ffigro allan be ydi teitl y Ffilm Di ddim - A Chritsmas Twister, neu F6: Twister?!
Bethbynnag ydy’r enw, diolch i chi gyd sy’n cyfrannu i gadw’r servers yn spinio yma ar yr Haclediad - yn enwedig i diolch I Ross McFarlane a Jamie mis yma! 🥹
DIolch i bob un ohonnoch chi sy’n rhannu’r 3ish o oriau yma efo ni bob mis, gobeithio y byddwn ni’n cadw chi i fynd trwy’r gwyliau ma os ydych chi’n teimlo bach yn unig 🫶🎄
Links:
Your feedback is valuable to us. Should you encounter any bugs, glitches, lack of functionality or other problems, please email us on [email protected] or join Moon.FM Telegram Group where you can talk directly to the dev team who are happy to answer any queries.