Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.
Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno 芒 Vaughan a Richard i drafod buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol yn America. Wythnos wedi'r gyllideb mae Guto Ifan hefyd yn ymuno i drafod goblygiadau cyhoeddiad Rachel Reeves ar Gymru. Ac ar 么l i Kemi Badenoch gael ei hethol yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr, mae'r ddau yn trafod yr heriau i'r blaid ar lefel Brydeinig ac yma yng Nghymru.
Ar 么l marwolaeth cyn Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond, mae Vaughan a Richard yn trafod ei farc ar wleidyddiaeth Prydain. Mae'r ddau hefyd yn trafod 100 diwrnod cyntaf Keir Starmer yn Downing Street ac yn edrych ymlaen at y ras i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol rhwng Kemi Badenoch a Robert Jenrick.
Gyda'r tymor seneddol newydd wedi dechrau mae Vaughan a Richard yn trafod yr hyn fydd ar yr agenda ym Mae Caerdydd a San Steffan. Maen nhw hefyd yn dadansoddi penodiadau Eluned Morgan i'w chabinet ar hyn mae'r penodiadau yn golygu i'r gr诺p Llafur yn y Bae. Ac a hithau'n ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban mae cyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i rannu ei hatgofion hi o'r cyfnod ac i drafod dyfodol yr SNP.
Wedi'i recordio ar faes yr Eisteddfod, mae Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan. Mae'r ddau yn dadansoddi etholiad y Senedd yn 2026, a sut fydd y system bleidleisio newydd yn gweithio. Ac i gloi mae ychydig o gwestiynau gan y gynulleidfa i'r ddau.
Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno 芒 Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones i ddadansoddi Eluned Morgan yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'r ddau yn trafod yr heriau sydd yn ei hwynebu i uno grwp y blaid yn y Senedd a'i hap锚l i etholwyr Cymru.
Ar 么l i Vaughan Gething ymddiswyddo wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd fel Prif Weinidog Cymru, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy鈥檔 trafod y ffactorau wnaeth arwain at ei benderfyniad. Mae鈥檙 ddau yn dadansoddi'r hyn mae鈥檔 golygu i鈥檙 Blaid Lafur a鈥檙 heriau fydd yn wynebu gr诺p y blaid yn y Senedd gan ystyried pwy sy鈥檔 debygol o sefyll os oes ras i鈥檞 olynu.
Ar 么l i'r blaid Lafur ennill buddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol mae Vaughan a Richard yn dadansoddi鈥檙 canlyniadau yng Nghymru gan drafod ymgyrch y pleidau gan edrych ymlaen hefyd at etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae鈥檙 ddau hefyd yn rhannu eu hargraffiadau o ddyddiau cynnar llywodraeth Keir Starmer ac yn ystyried dyfodol y Blaid Geidwadol.
Yn y podlediad olaf cyn yr etholiad cyffredinol, cyn ymgynghorydd Boris Johnson, Guto Harri sy鈥檔 ymuno 芒 Vaughan a Richard yr wythnos hon. Ymgyrch y Ceidwadwyr a dyfodol y blaid yw rhai o鈥檙 pynciau o dan sylw. Mae golwg penodol hefyd yn cael ei rhoi i鈥檙 etholiad yn yr Alban ac argraffiadau'r ymgyrch dros y pum wythnos diwethaf.
Faint o effaith mae honiadau o gamblo yn ei gael ar ymgyrch yr etholiad? Dyna brif ffocws Vaughan Roderick a鈥檙 Athro Richard Wyn Jones.
Sylw i ymgyrch Plaid Cymru, gyda dadansoddiad gan cyn aelod Cynulliad y Blaid, Nerys Evans. Ac mae sylw penodol hefyd yn cael ei rhoi i etholaethau'r de.
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod maniffestos y Blaid Lafur a Phlaid Cymru gan ystyried perthynas Llafur Cymru a'r blaid yn eangach ar lefel Brydeinig. Yn ymuno gyda'r ddau mae Owen John cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i drafod tactegau Llafur yn yr ymgyrch hyd yma. Hefyd mae'r ddau yn dadansoddi yr ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr dros yr wythnos diwethaf, tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arwyddocad Reform UK yn lansio ei 'chytundeb' gyda'r bobl ym Merthyr Tudful.. Cyfle hefyd i roi sylw penodol i etholaethau'r Canolbarth a'r Gorllewin.
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch etholiadol hyd yma, gan ganolbwyntio ar rai o etholaethau'r gogledd.
Your feedback is valuable to us. Should you encounter any bugs, glitches, lack of functionality or other problems, please email us on [email protected] or join Moon.FM Telegram Group where you can talk directly to the dev team who are happy to answer any queries.