Podpeth

Iwan Pitts, Hywel Pitts

Mae’r brodyr Hywel ac Iwan Pitts yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.

  • 32 minutes 10 seconds
    Podpêl-droed 2022 (v Lloegr)

    Mae'r criw yn trafod gêm olaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl iddynt golli 3-0 i Loegr, wrth i arbrawf Iwan i wneud podlediad yn defnyddio 'mond negeseuon llais fethu'n llwyr.

    Sgarff Dafydd Iwan, Geraint Løvgreen, ac annwyd Elin.

    Mae Hywel yn plygio ei daith Cabarela (sydd wedi gwerthu allan), ac mae Iwan yn plygio ei rhaglen radio ar Spotify - The Internet Radio Tapes.

    Bydd Podpeth yn nôl yn fuan...

    29 November 2022, 10:12 pm
  • 39 minutes 25 seconds
    Podpêl-droed 2022 (v Iran)

    Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler? 

    Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes).

    Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy’r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill.

    26 November 2022, 7:30 pm
  • 30 minutes 57 seconds
    Podpêl-droed 2022 (v Yr UDA)

    Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock.

    Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad.

    22 November 2022, 1:52 pm
  • 37 minutes 21 seconds
    Syniadad #10 - Telibocs

    "'Dyn nhw'n gneud microwave a ffrij? Mewn un?"

    Mae syniad diweddara' @SpursMel yn swnio'n eithaf tebyg i syniad sy'n bodoli'n barod. Mae Hywel, Iwan ac Elin yn ymateb.

    26 July 2022, 9:07 am
  • 29 minutes 54 seconds
    Syniadad #9 - LGBTQIA+ (15)

    "Ydi o dal yn syniad fi 'lly?"
    "... Di o'm yn syniad"

    Mae calon @SpursMel yn y lle iawn gyda'i syniad diweddara' - ond mae o'n codi lot o gwestiynau. Mae Iwan, Elin a Hywel yn trio'u gorau i'w hateb.

    19 July 2022, 10:32 am
  • 33 minutes 23 seconds
    Syniadad #8 - Chwadan Allan o Ddŵr

    "Be 'di duck yn criced?"
    "Dim"
    "Ia, dyna allan o ddeg ma hwn yn mynd i gael..."

    Mae profiad diweddar mewn bar ym Maenceinion wedi rhoi syniad newydd i @SpursMel.  Elin, Iwan a Hywel sy'n ymateb.

    12 July 2022, 11:31 am
  • 36 minutes 55 seconds
    Syniadad #7 - Podpeth ar Daith!

    "Wyt ti'n gwrando ar unrhyw bodcasts?"

    "Na."

     

    Mae gan @SpursMel syniad tydi hyd 'noed o'm yn licio. Elin, Iwan a Hywel sy'n gofyn y cwestiwn: Pam?

    28 June 2022, 8:00 am
  • 36 minutes 2 seconds
    Syniadad #6 - Gigs VR

    "S'genno fi'm cwynion am hwn de Mel"

     

    Mae @SpursMel wedi meddwl am syniad newydd (ond yn amlwg heb feddwl am deitl call iddo). Mae adborth Hywel, Elin ac Iwan yn well nag arfer.

    21 June 2022, 8:47 am
  • 40 minutes
    Syniadad #5 - Incognito / Limo i’r Sêr

    "Dw i 'di g'neud tri sgript bach..."

     

    Mae @SpursMel i fyny i'w hen driciau gyda'i Syniadad wythnos yma - ond diolch byth mae o hefyd wedi bod yn brysur yn sgwennu sgriptiau. Mae Hywel, Elin ac Iwan yn trio'u gorau i ddadansoddi.

    14 June 2022, 9:00 am
  • 33 minutes 53 seconds
    Syniadad #4 - Cystadleuaeth Cân Eurovision Cymru

    "Mae 'na botenshal i hwnna fod yn... problematic de"

    "Pam?!"

     

    Mae Iwan, Elin a Hywel yn cael deja vu wrth rhoi adborth i @SpursMel am ei syniad diweddara'.

    7 June 2022, 9:09 am
  • 33 minutes 49 seconds
    Syniadad #3 - Cewri Tudur

    "Be 'di hwn ydi ailwampio un o Syniadads gora fi... Ar y Zip."

     

    Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trio gwneud synnwyr o syniad diweddara' @SpursMel.

     

    (Mae'r ysbrydoliaeth - Ar y Zip - yn wreiddiol o bennod 9 o'r Podpeth.)

    31 May 2022, 2:31 pm
  • More Episodes? Get the App
© MoonFM 2024. All rights reserved.