Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Yr actores Lisabeth Miles sy’n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i’r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu’r 50! Mae’n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo’r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghŷd â Gaynor Morgan Rees a Iona Banks. Bu’n gweithio’n gyson mewn cynhyrchiadau i’r BBC hefyd, gan gynnwys “Esther”, “Y Stafell Ddirgel”, “Lleifior” a “Branwen” yn ystod diwedd y 1960au a dechrau’r 70au.
Daw Eurgain o Benisa’r-waun yn Eryri ond mae hi'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gwr a'u dau o blant. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, ac wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd. Eurgain oedd enillydd y fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2024 gyda ' Y Morfarch Arian' . Mae hi'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.
Owain Gwynfryn yw gwestai Beti George.
Fe gafodd Owain ei fagu yng Nghaerdydd, ac yna ym Mhrestatyn.
Wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus iddo'i hun fel ceiropractydd, fe benderfynodd Owain newid cyfeiriad a mynd i astudio'r llais yng Ngholeg y Guildhall yn Llundain. Graddiodd y llynedd, ac yntau yn ddeugain oed.
Mae'n parhau gyda'i yrfa fel ceiropractydd yn ei glinig yn Llundain, pan fo amser yn caniatáu, ond ei nod yw cyrraedd y brig o ran ei yrfa fel canwr - ym myd opera a thu hwnt.
Anthony Matthews Jones yw gwestai Beti George.
Yn wreiddiol o Ynys MĂ´n, mae'n byw yn Iwerddon ers dros bum mlynedd ar hugain.
Mae'n gweithio fel ymgynghorydd ariannol, ac wedi sefydlu ei gwmni ei hun.
Ei ddiddordeb mawr yw canu, a hynny ers pan oedd yn ifanc. Mae'n teithio'r byd yn annerch mewn cynhadleddau, ac yn canu ynddynt hefyd.
Meirion MacIntyre Huws yw gwestai Beti George.
Mae'n gyfarwydd iawn i ni fel bardd, ac ef oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993.
Mae Mei Mac yn un sy'n barod i fentro a wynebu heriau newydd.
Bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr cyn ac ar ôl bod yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, cyn ymhel â sawl maes arall fel cartwnydd, dylunydd, rhedeg safle glampio, a gwesty.
Bellach mae ganddo gwmni paneli solar, ac mae'n gweithio fel swyddog enwau lleoedd i Gyngor Gwynedd.
Yr Athro Angharad Puw Davies yw gwestai Beti George.
Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug, ond mae hi bellach yn byw yn Abertawe
Mae hi'n arbenigo mewn microbioleg feddygol a heintiau, ac yn ystod y rhaglen fe fydd yn trafod y diciâu, gwaith ymchwil mewn carchar yn Llundain, ymweliad â Siberia, a cryptosporidiosis.
Mae ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac mae'n cynganeddu.
Richard Jones-Parry yw gwestai Beti George.
Mab fferm Bryn Bachau rhwng Abererch a Chwilog yw Richard. Mae'n gyn athro Cemeg yn Ysgol Breswyl Marlborough, ac wedi bod yn dysgu yn Awstralia hefyd.
Fe dreuliodd gyfnod hefo'i deulu yn gwirfoddoli yn Ghana. Mae'n treulio pedwar mis o'r flwyddyn yng Nghymru a'r gweddill yn Adelaide, Awstralia.
Aled Lewis yw gwestai Beti George.
Mae'n gynllunydd a saer dodrefn, sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ers pum mlynedd ar hugain.
Cafodd ei fagu ar fferm ger Machynlleth gan ddod dan ddylanwad ei dad - oedd yn grefftwr da.
Yn 16 oed fe aeth i Goleg Rycotewood yn Rhydychen i astudio gwaith coed a dylunio dodrefn cyn mynd draw i America i weithio. Mae wedi treulio cyfnod yn Ne Affrica hefyd yn y cyfnod cyn i Apartheid ddod i ben.
Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hwylio.
Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards.
Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg.
Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni.
Wrth drafod ei hunaniaeth mae'n mynd a ni ar daith i Lundain, Hong Kong, Iwerddon a Barbados, ac mae dylanwad ei deulu yn fawr arno.
Mae Malachy bellach yn byw hefo'i wraig Celyn a'r teulu ar Ynys MĂ´n.
Mewn rhaglen arbennig i nodi 40 mlynedd o Beti a'i Phobol, Beti George sy'n holi ei mab Iestyn George am ei waith gyda NME, GQ, marchnata'r Manic Street Preachers yn y dyddiau cynnar, ac am ei fagwraeth ganddi hi. Fe gyflwynodd Jamie Oliver i sylw'r byd, ac roedd yna ar ddechrau perthynas David a Victoria Beckham. Mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Brighton ac yn Dad i ddau.
Dr Carwyn Jones yw gwestai Beti George.
Mae'n Athro mewn moeseg chwaraeon yn gweithio yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd - ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ei brif ddiddordebau ymchwil yw moeseg chwaraeon yn gyffredinol a'r berthynas rhwng chwaraeon ac yfed alcohol yn arbennig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddosbarthiad yn y Gemau Paralympaidd, rheolau cymhwysedd cenedlaethol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hiliaeth a thyfu cymeriad drwy chwaraeon.
Mae'n wreiddiol o Ddinbych ond bellach yn byw yn Abergwyngregyn gyda'i wraig a'i fab.
Mae dau beth tyngedfennol wedi digwydd ym mywyd Carwyn - rhoi'r gorau i yfed alcohol a chael tiwmor ar ei ymennydd. Mae'n trafod yn agored gyda Beti y cyfnodau anodd yma yn ei fywyd, ac yn dewis pedair cân sydd yn cysylltu â gwahanol gyfnodau o'i fywyd.
Your feedback is valuable to us. Should you encounter any bugs, glitches, lack of functionality or other problems, please email us on [email protected] or join Moon.FM Telegram Group where you can talk directly to the dev team who are happy to answer any queries.