Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd.
Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau’r teulu. Erbyn hyn, mae’n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a’i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a’i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a’r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a’i chysylltiad â’r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio’r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae’n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae’n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.
Ffoadur a wnaeth ffoi o’r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o’r wlad. Bu’n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati’n syth i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i’r Gymraeg.
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
Clip 1 Trawsblaniad calon: Heart transplant Cwpan y Byd: World Cup Y garfan: The squad Be mae o’n ei olygu: What does it mean
Clip 2 Ymateb: Response Cyflawn: Complete Rhyng Gol: Inter college Di-lol: No nonsense Yn y pen draw: In the end Enwogrwydd: Fame Rhyngwladol: International Corwynt: Hurricane Cyfweliadau: Interviews Medra: I can
Clip 3 Cyfryngau cymdeithasol: Social media Dilynwyr: Followers Hyrwyddo: To promote Bob cwr: Every corner Yn gyfrifol am: Responsible for Dylsen ni neu dylen ni: We should Cenedl: Nation Yn ormodol: Excessively
Clip 4 Swyddog Datblygu Cymunedol; Community Development Officer Darganfod: To discover Addas: Appropriate Ymgeisiais i: I applied Gwobr: Award Diolchgar: Thankful Enwebu: To nominate Ysbrydoli: To inspire Ystyried: To consider Trochi: To immerse Yn y bôn: Basically
Clip 5 Cynefin: Abode Yn falch iawn: Very proud Cyfathrebu: Communicating
Clip 6 Dylanwad: Influence Degawd: Decade Cyfnod: Period Cyfansoddi: To compose Alawon: Tunes Cyfrol: Book Cyfarwydd: Familiar
Clip 7 Enwebiadau: Nominations Sylweddol: Substantial Yn fraint: An honour Yn ychwanegol: Additionally to Plentyndod: Childhood Cyswllt: Connection Celfyddydau: Arts
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
Clip 1 – Sian Phillips Cysylltiadau : Connections Dodi : To put Adrodd : To recite Am wn i : I suppose Y fraint : The honour Gwrthod : To refuse
Clip 2 - Megan Williams Awgrymu : To suggest Yr Unol Daleithiau : The United States Yn gyffredinol : Generally Cymuned : Community Golygydd : Editor
Clip 3 – Katie Hall Cyflwyniad : Introduction Gradd : Degree Y fath beth : Such a thing
Clip 4 – Lili Mohammad Caeredin : Edinburgh Ysbrydoli : To inspire Datblygu : To develop Sioe gerdd : Musical Llywodraeth : Government Rhyfel : War Doniol : Amusing Ysgafn : Light O ddifri : Serious Arwain y fyddin : Leading the army
Clip 5 – Elen Rhys ‘Sa i’n gwybod’ : am ‘dw i ddim yn gwybod’ Mo’yn' : am ‘isio’ Diwydiant : Industry Diflannu : To disappear Y cyfnod clo : The lockdown
Clip 6 - Andy Bell Cyfarwydd â : Familiar with Torf : Crowd Drwy gyfrwng : Through the medium Darlledwr cyhoeddus : Public broadcaster Cynghrair : League Campau : Sports Neuadd mabolgampau : Sport halls Corfforol : Physical Ar y brig : On top Dyfarnwyr a hyfforddwyr : Referees and coaches
Clip 7 – Pwyll ap Sion Cyfeirio at : To refer to Cynhyrchu : To produce Mor uchelgeisiol : So ambitious Cysyniad : Concept Offerynnau : Instruments Yn wirioneddol anhygoel : Really incredible Athrylith : Genius Cydio : To take hold Y tu hwnt i : Beyond
Clip 8 – Prif Stiward Deugain mlynedd : 40 years Haeddu mensh : Deserving a mention
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:
Clip 1 Cneifio - Shearing Canolbwyntio - To concentrate Bawd - Thumb Cyfathrebu - To communicate Yr wyddor - The alphabet Yn rhyfeddol - Wonderful
Clip 2 Cyn-bostfeistr - Former postmaster Mi gaeth ei garcharu ar gam - He was wrongly imprisoned Cyfrinachol - Secret Enw barddol - Bardic name Yn darlledu - Broadcasting Y profiad a’r anrhydedd - The experience and the honour Gwlychu - To get wet
Clip 3 Penodiad - Appointment Swydd Efrog - Yorkshire Balch - Proud Traddodiad - Tradition Cynghrair y Cenhedloedd - Nations League Hyfforddi - To coach Amddiffynnwr - Defender CaerlÅ·r - Leicester Datblygu - To develop Amheuaeth - Suspicion
Clip 4 O‘ch cwmpas chi - Around you Cofleidio - To cuddle Cadw cysylltiad - Keeping in touch Adnod - A verse Ara deg - Slow Rhaniad - A split Bellach - By now Cyfoedion - Peers Andros o greulon - Terribly cruel
Clip 5 Wedi hen arfer - Well used to Unigryw - Unique Dyfeisiadau sain - Sound devices Cyn pen hir a hwyr - Eventually Llwythi - Loads Trychinebus - Disastrous Hanner ei malu - Half broken Yn gyfangwbl - Completely
Clip 6 Uchafbwynt - Highlight Gwatsiad - To watch Trydanol - Electric Ocheniad anferthol o ryddhad - A huge sigh of relief
Clip 7 Mam-gu - Nain Yr hewl neu heol - Y ffordd Dwlu ar - Yn hoff iawn o Cymeriadau - Characters Trwy gydol dy fywyd - All your life Cymuned - Community Yn iau - Younger
Clip 8 Paratoi ei ieir - Preparing his hens Creaduriaid - Creatures Padell - Pan Brwnt - Dirty Barnu - To adjudicate Graen - Condition Gwedd - Appearance Dodwy - To lay an egg Sbri - Fun
Your feedback is valuable to us. Should you encounter any bugs, glitches, lack of functionality or other problems, please email us on [email protected] or join Moon.FM Telegram Group where you can talk directly to the dev team who are happy to answer any queries.