Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.
Dewch i wrando ar stori am fachgen o’r enw Meic a’i feic newydd sbon. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Pan mae Siani’r crocodeil yn brifo ei choes, mae’r anifeiliad eraill i gyd ofn ei helpu, pawb heblaw Ping. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Llinos Thomas Davies.
Mae Seimon yn hiraethu am ei nain, nes ei fod yn darganfod cragen arbennig ar y traeth sy’n newid popeth. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Sioned Erin Hughes.
Môr leidr sy’n caru siocled yw Mori, ac un diwrnod mae’n darganfod trysor arbennig ar y traeth yn Aberystwyth. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Anni Llŷn.
Mae pawb ond Ifan yn gallu dweud yr amser, ond mae Tic Toc, ceidwad amser, wedi dod i’w helpu. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Miriam Sautin.
Wrth fynd am dro un bore yn yr eira mae Nel yn gweld rhywbeth hollol anhygoel. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Mae Nel yn breuddwydio am gael gweld enfys, ac o’r diwedd mae ei breuddwyd yn dod yn wir. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Yn ystod amser chwarae yn yr ysgol mae’r plant yn dod o hyd i wylan fach ar yr iard. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mirain Fflur.
Dydy Harri ddim yn hoffi mynd i gael torri ei wallt, ond y tro hwn mae o’n cael mynd a Cleif efo fo. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Mae Siwsi ar fin dathlu ei phenblwydd yn bum mlwydd oed ac yn gobeithio cael anrheg anghyffredin iawn. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Rhiannon Lloyd Williams
Mae dant Anest yn dechrau dod yn rhydd ond yn gwrthod dod allan, mae hi angen help! Rebecca Harries sydd yn darllen stori gan Leo Drayton.
Your feedback is valuable to us. Should you encounter any bugs, glitches, lack of functionality or other problems, please email us on [email protected] or join Moon.FM Telegram Group where you can talk directly to the dev team who are happy to answer any queries.