Stori Tic Toc

BBC

Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.

  • 6 minutes 45 seconds
    Dewin a Doti Ar y Fferm

    Dere i wrando ar stori llawn antur a hud gyda Dewin a Doti’r ci. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Meleri Wyn James.

    16 December 2025, 10:00 am
  • 6 minutes 45 seconds
    Meirwen ar Fferm Ffrwd Ffradach

    Dyma stori am Meirwen y gath yn ymweld â Fferm Ffrwd Ffradach. Ond brensiach, rwy’n siŵr na welsoch chi fferm yn debyg i hon o’r blaen. Mae’r anifeiliaid yn gwneud pethau rhyfedd iawn yma.

    Owain Sion sy'n adrodd stori gan Rhys Iorwerth.

    2 December 2025, 10:00 am
  • 6 minutes 15 seconds
    Bedwyr a'r Beics

    Stori ddoniol a rhyfedd iawn yw hon. Mae Bedwyr a’i ffrindiau wrth eu boddau yn mynd ar eu beics yn y parc, ond mae wiwerod direidus eisiau ymuno yn yr hwyl hefyd.

    Owain Sion sy'n adrodd stori gan Rhys Iorwerth.

    18 November 2025, 10:00 am
  • 5 minutes 50 seconds
    Dewin a Doti - Y Goeden Nadolig

    Mae yna gyffro yn y Cylch Meithrin heddiw. Mae Dewin a Doti wedi dod draw i helpu’r plant i addurno’r goeden Nadolig. Gydag ychydig o hud a lledrith mae’r goeden hon wedi ei haddurno’r ryfeddol o hardd.

    Owain Sion sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.

    4 November 2025, 10:00 am
  • 6 minutes 17 seconds
    Drws Hudol Dilys

    Dyma stori am antur merch fach o’r enw Dilys sydd ddim yn hoffi cysgu. Lily Beau sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams.

    21 October 2025, 9:00 am
  • 5 minutes 40 seconds
    Diwrnod y Gêm Fawr

    Mae diwrnod y gêm fawr wedi cyrraedd. Ydy’r tîm yn ennill neu’n colli, tybed? Lily Beau sy'n adrodd stori gan Zach Mutyambizi.

    7 October 2025, 9:00 am
  • 6 minutes
    Y Wrach Fach Flêr

    Dewch i helpu Martha i ddod o hyd i’r sŵn mwya erchyll yn y byd. Beth neu bwy allai fod tybed? Lily Beau sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams.

    23 September 2025, 9:00 am
  • 6 minutes 58 seconds
    Reji yn y ffair

    Dewch i wrando ar stori am antur Reji a’i ffrind Leia yn y ffair. Lily Beau sy'n adrodd stori gan Natalie Jones.

    9 September 2025, 9:00 am
  • 6 minutes 25 seconds
    NiNi a Cwlffyn Sbloej

    Dewch i gwrdd â NiNi sy’n fach a Cwlffyn sy’n gawr. Er eu bod nhw mor wahanol i’w gilydd, mae’r ddau yn ffrindiau mawr, ac eisiau ennill arian i brynu losin. Lara Catrin sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.

    19 August 2025, 9:00 am
  • 6 minutes 9 seconds
    Alys a’r Anrheg Hud

    Gobeithio eich bod chi’n dda am gadw cyfrinach. Stori yw hon am Alys sy’n derbyn anrheg arbennig iawn.

    Lara Catrin sy'n adrodd stori gan Elen Mair Thomas.

    5 August 2025, 9:00 am
  • 6 minutes 10 seconds
    Iori a Heti a’r Creadur Anhygoel

    Os ydych chi’n mwynhau sosejis, wel mi gewch chi hwyl yng nghwmni Iori a Heti. Tybed fyddan nhw’n dod o hyd i’r Creadur Anhygoel?

    Lara Catrin sy'n darllen ei stori ei hun.

    29 July 2025, 9:00 am
  • More Episodes? Get the App