Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Beti George yn holi y cerddor a'r cyn nyrs Edwin Humphreys.
Nid yn aml mae Beti yn cael gwestai sydd wedi cael gyrfa mor amrywiol â hynny mewn meysydd mor wahanol i'w gilydd.
Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed fe aeth Edwin Humphreys i'r fyddin a bu'n aelod o Fand Pres Catrawd Hussars. Yna bu'n gerddor yn chwarae gyda sawl band Cymraeg ac wedyn fe aeth i'r Brifysgol yn 30 mlwydd oed i astudio cerdd - ond wedi iddo raddio, doedd dim digon o waith ac felly penderfynodd gael gradd arall mewn nyrsio.
Treuliodd flynyddoedd yn nyrsio mewn meysydd heriol, ac wedi ymddeol o'r swydd yna fe gafodd swydd arall yn gweithio gyda Gwasanaeth Cerdd Gwynedd.
Mae'n Dad balch i 3 o blant ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys un gan y grŵp Pys Melyn gan fod ei fab Ceiri yn y band.
Sioned Fôn Jones, gwyddonwraig ifanc o bentref Waunfawr, Gwynedd yw gwestai Beti George.
Mae wedi creu cwmni Booby Biome yn Llundain. " Ni oedd y cwmni cyntaf o'i fath yn y maes yma" meddai Sioned. Maen nhw'n creu llaeth sydd yn debyg i laeth y fron, "mae'n cocktail o facteria perffaith i fabi" tebyg i probiotic sydd wedi ei ddylunio o laeth y fron gan griw o wyddonwyr ifanc. Y gobaith ydi y bydd yn cael ei gyflwyno i ysbytai, wardiau babis flwyddyn nesa. Mae’r cwmni wedi tyfu ers ei sefydlu yn 2019. Fe sefydlwyd y cwmni yn Ysbyty Great Ormond Street , gan mae dyma’r ysbyty plant gorau yn y byd ac mae’r ymchwil sydd yn cael ei wneud yno yn arwain y ffordd mewn sawl maes o fewn iechyd plant.
Mae gan Sioned lawer o uchafbwyntiau i’w gyrfa. Un pennaf oedd ennill lle ar restr ‘Forbes 30 Under 30’ llynedd. Mae’r wobr yma yn ddathliad o 30 o bobl o dan 30 oed sydd wedi gwneud cyfraniad nodweddiadol yn eu maes ac wedi cyflawni rhywbeth arbennig.
Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys darn piano arbennig wnaeth y diweddar Annette Bryn Parri ei chwarae i'w diweddar Dad.
Beti George yn holi Dr Brython Hywel.
Bod yn ddeintydd oedd ei uchelgais cyntaf ond ar ôl profiad gwaith yn ysbyty Glan Clwyd fe newidiodd ei feddwl, er bod meddyg ifanc yn fanno wedi dweud wrtho beidio mynd yn feddyg. Ond tydi o ddim wedi difaru anwybyddu cyngor y doctor ifanc ac erbyn hyn wedi blynyddoedd lawer o astudio a hyfforddi mae wedi cyrraedd y brig ac yn arbenigo mewn maes Niwroleg a Niwroffisioleg.
Magwyd Brython yn Llangernyw, Dyffryn Conwy. Enillodd ei radd feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2008 cyn gweithio yng ngogledd Cymru am bedair blynedd fel meddyg iau, lle ymgymerodd â'i hyfforddiant sylfaen yn Ysbyty Glan Clwyd a hyfforddiant meddygol craidd yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Tra roedd yno, fe ymgeisiodd i gael hyfforddiant yn Lerpwl fel Niwrolegydd. Ar ôl cwblhau hyfforddiant uwch yng Nghanolfan Walton – canolfan arbenigol y GIG ar gyfer Niwroleg – o 2012 i 2019, dechreuodd fel Niwrolegydd Ymgynghorol a Niwroffisiolegydd Clinigol ym mis Awst 2019.
Mae Brython bellach yn bennaeth yr adran Niwroffisioleg yng Nghanolfan Walton lle mae’n gwneud gwaith EMG ac EEG. Mae Brython hefyd yn gwneud clinigau niwroleg ac adolygiadau ward yn Ysbyty Gwynedd. Cawn hanes difyr ei fywyd a'i waith ac mae'n dewis 4 darn o gerddoriaeth yn cynnwys Cymru, Lloegr a Llanrwst, gan Y Cyrff. Roedd tad Brython yn diwtor dosbarth ar Mark Roberts Y Cyrff yn Ysgol Dyffryn Conwy.
Beti George sydd yn holi'r peilot Jâms Powys.
Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni awyrennau British Airways ac mae'n cyfarch y teithwyr yn Gymraeg.
Ers yn blentyn bach doedd dim byd arall yn apelio fel gyrfa, ac fe ddechreuodd hedfan cyn iddo yrru car.
Cawn glywed ei hanesion yn hedfan i Efrog Newydd, Nigeria a Mecsico. Mae'n sôn am gyfnod Covid ac effaith hynny ar y diwydiant, ac am newidiadau sydd tuag at danwydd mwy gwyrdd yn sgil newid hinsawdd.
Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru.
Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau.
Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ddysgodd Gymraeg.
Ddwy flynedd yn ôl fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Amgueddfa Genedlaethol, a hynny ar adeg heriol iawn yn hanes y sefydliad.
Beti George yn holi Mari Huws - warden ar Ynys Enlli.
Fe gafodd Mari ei magu yng Nghaernarfon a Phenygroes, ac fe gafodd brofiad yn ifanc o deithio hefo'r teulu, gan gynnwys mynd i Ynys Enlli.
Treuliodd gyfnodau yn gwirfoddoli a gweithio yn Costa Rica, Nicaragua, Siapan ac Indonesia.
Mae hi wedi cynhyrchu ffilmiau dogfen, a Mari oedd yn gyfrifol am y prosiect 'Olew Drwg' sy'n trafod y diwydiant olew palmwydd yn Indonesia, a dangoswyd ei ffilmiau ar Hansh.
Teithiodd i'r Arctig hefyd i ffilmio ar gyfer ei phrosiect ymchwil ar lefelau llygredd plastig.
Bu'n gweithio ym myd teledu hefyd cyn cael swydd fel warden ar Ynys Enlli, ac mae hi yno bellach ers chwe blynedd.
Beti George yn holi Nolwenn Korbell.
Llydawes wnaeth syrthio mewn cariad hefo'r Gymraeg ydi Nolwenn, a hynny ers pan oedd hi'n blentyn yn mynd gyda'i mam bob blwyddyn i'r Gyngres Geltaidd.
Fe dreuliodd gyfnod yng Nghymru, a bu'n canu gyda Bob Delyn a'r Ebillion.
Ar ôl mynd yn ôl i Lydaw aeth ei gyrfa fel cantores o nerth i nerth gan gyrraedd y brig. Mae hi wedi rhyddhau saith albym hyd yn hyn.
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Marcus Whitfield.
Mae Marcus yn siaradwr newydd sydd mor frwd dros yr iaith nes iddo fynd ati i agor canolfan yn Llanbedr Pont Steffan i ddod â dysgwyr at ei gilydd i ymarfer yr iaith, a chodi eu hyder.
Wedi sawl ymdrech ar ddysgu'r iaith, yr ysgogiad mawr i Marcus ail afael ynddi oedd mynd i Euro 2016 a glanio yng nghanol cymaint o siaradwyr Cymraeg.
Mae'n dod yn wreiddiol o Fwcle yn Sir Y Fflint, ond mae o bellach yn byw yn swydd Caint, ac mae ganddo sawl dosbarth dysgu Cymraeg yn Lloegr.
Dafydd Roberts yw gwestai Beti George.
Mae'n gerddor ac yn gynhyrchydd, ac yn aelod o'r grwp gwerin poblogaidd Ar Log, sy'n hanner cant oed flwyddyn nesaf.
Pan yn ifanc, roedd Dafydd a'i fryd ar fod yn feddyg, ond Seicoleg oedd ei bwnc ym Mhrifysgol Bangor.
Mae wedi protestio ac ymgyrchu dros yr iaith, ac yn ddiweddarach dros chwarae teg i gerddorion.
Bu'n gynhyrchydd teledu ac yn brif weithredwr cwmni Sain.
Mae wedi teithio'n helaeth, a cherddoriaeth yw'r llinyn cyswllt drwy'r cyfan.
Mae'n chwarae sawl offeryn gan gynnwys y delyn deires, ac yn un o ddisgyblion Nansi Richards.
A hithau'n Fis Ymwybyddiaeth Canser Plant, mae Beti George yn holi Dr Celyn Kenny.
Meddyg sydd yn gweithio gyda phlant sy'n dioddef o ganser yw Celyn.
Doedd hi ddim yn hawdd iddi gael lle ar y cwrs Oncoleg Plant gan fod 'na gyfyngu ar y nifer, ond llwyddodd i ddod yn gyntaf drwy Brydain.
Mae hi newydd dreulio chwe mis yn Ysbyty Great Ormond Street, a bellach mae hi'n ôl yn gweithio ar Ward Arch Noa yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae hi hefyd yn darlithio ar y cwrs meddygaeth - cyfrwng Cymraeg, sydd yn bwysig iawn iddi, ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn un o'r meddygon ar raglen 'Prynhawn Da' ar S4C.
Beti George yn holi Dr Gareth Evans-Jones.
Mae Gareth yn awdur, bardd a dramodydd ac wedi ennill Y Fedal Ddrama ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe gafodd fagwraeth gymhleth, ac fe wahanodd ei rieni pan oedd yn bump oed.
Aeth i Brifysgol Bangor, a chael gradd meistr a doethuriaeth, ac ennill sawl gwobr hefyd.
Mae Gareth bellach yn gweithio fel darlithydd yn Adran Grefydd ac Athroniaeth Prifysgol Bangor, ac mae Iddewiaeth a Phaganiaeth yn feysydd y mae’n arbenigo ynddyn nhw.
Ef yw sylfaenydd Clwb Darllen Llyfrau Lliwgar.