croeso i bennod mis Medi lle mae llwch llantwd yn dal i fod yn ein gwalltiau! Cawn sgwrs ddifyr a swmpus gyda Phrifardd y Gadair, Emyr Lewis ac fe gawn glywed eitem a recordiwyd yn nhrafodaeth flynyddol Cymdeithas Ceredigion am y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau, gydag Emyr Davies a phrifardd y Goron, Martin Huws. cawn hefyd orffwysgerdd gan fardd y Mis, Radio Cymru, Hammad Rind. Hyn oll, ynghyd â llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a mwy!
29 September 2026, 11:51 pm
Croeso i bennod fyw o Clera yn y Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, sef Enfys Hatcher ac Endaf Griffiths. Gyda digon o drafod, barddoni, cerddi, gemau a giamocs.
9 August 2026, 11:32 pm
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera. Dyma hi'n gynnar ar eich cyfer gan y daw pennod mis Awst yn fyw o'r Babell Lên yn ddigon buan wedi'r Brifwyl.
Yn y bennod hon cawn gwmni'r Prifardd a'r cyn-fardd cenedlaethol Ifor ap Glyn, yr Archdderwydd Mererid a'r Prifardd Tudur Dylan, yn ogystal â gorffwysgerdd gan un o feirdd ardal Y Garreg Las, Steffan Phillips. Hyn oll a mwy!
22 July 2026, 12:12 pm
Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad barddol hynaf Cymru! Mae'r bennod hon yn un sydd â blas o'r Garreg Las iddi! Cawn brofi rhywfaint ar ddathliadau 850 mlwyddiant Eisteddfod Yr Arglwydd Rhys a gynhaliwyd yn 1176 yng Nghastell Aberteifi, ac fe gawn hefyd gyfle i gofio yng nghwmni'r Prifardd idris Reynolds am y diweddar brifardd, Eirwyn George, a roddod le blaenllaw i fro Eisteddfod y Garreg Las yn ei ganu ac yng ngeithgarwch ei fywyd.
30 June 2026, 6:11 pm
Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod mis Mai o bodlediad barddol hynaf y Gymraeg. Y mis hwn cawn sgwrs am ddylanwad beirdd fel Dic Jones ar boblogrwydd y gynghanedd heddiw. Cawn hefyd orffwysgerdd hyfryd gan Nanw Maelor. A hefyd fe glywn ni wrth y tri sydd wedi eu dewis yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, sef Carwyn Eckley, Jo Heyde a Mererid Hopwood. Hyn oll, y Delicysi gan Dylan, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!
26 May 2026, 10:11 am
Mae'r gwanwyn wedi dod! â phennod newydd o bodlediad Clera gydag e! Yn y bennod hon cawn drafodaeth ar reol gwrth-gynganeddol Y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan fardd ifanc cyffrous, Rebecca Rees a hefyd sgwrs gyda golygydd cyfrol hyfryd newydd o waith R. Williams Parry, Dr Elis Dafydd. Hyn a llawer iawn mwy mewn pennod swmpus o brif bodlediad barddol Cymraeg y byd!
29 April 2026, 11:08 pm
Croeso i bennod mis Mawrth, 2026 o bidlediad Clera. Y tro hwn cawn gwmni dau Fardd Plant, sef cyn-fardd Blant Cymru, Nia Morais, sy'n darllen cerdd o'i chyfrol gyntaf o gerddi 'Yn y Freuddwyd' a chawn hefyd sgwrs gyda'r bardd plant cyfredol, Siôn Tomos Owen. Mae Gruffudd Antur hefyd yn pwnco gyda ni am fardd sy'n haeddu mwy o sylw, Gutun Owain, ac fe gewn hefyd drafod llinell gynganeddol y mis, ymysg pethau eraill.
27 March 2026, 12:14 am
Clera Chwefror 2026 by Clera
28 February 2026, 2:27 am
Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Croeso i bennod blygeiniol o bodlediad Clera. Y mis hwn cawn sgwrs ddifyr gydag Arfon Gwilym, beirniadaeth finiog arall gan Gruffudd Antur yn Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y mis a cherdd Ddwynwenaidd hyfryd gan Fardd Tref Aberystwyth, y Prifardd Hywel Griffiths. Mwynhewch!
31 January 2026, 5:55 pm
Clera Rhagfyr 2025 by Clera
15 December 2025, 12:06 am
Croeso i bennod y mis du o bodlediad Clera. Mae tachwedd wedi oeri yn sydyn, felly dyma'r cydymaith perffaith i chi wrth gadw'n dwym ac yn glyd neu wrth fynd mas am dro a theimlo'r oerfel ar eich wyneb a gwres yn eich clustiau!
Cawn ddwy sgwrs ddifyr a swmpus yng nghwmni Prifardd Coron Eisteddfod genedlaqethol Wrecsam, Owain Rhys. A hefyd cawn gwmni'r prifardd a'r cyn-Archerwydd Jim Parc Nest. Gan taw dyma'r bennod hiraf erioed o Clera, mae nodiadau amseru isod. Hyn, hanes Gŵyl Gerallt a llawer mwy!
Cyflwyniad
28:59 - Y Delicasi gan Dylan (Y Prifardd Tudur Dylan)
31:46 - Pwnco Holi'r Prifardd Owain Rhys
1:05:38 - Cerdd yr Orffwysfa / Yr Orffwysgerdd - Y Prifardd Idris Reynolds
1:11:46 - Sgwrs gyda'r Cyn-Archdderwydd a'r prifardd Jim parc Nest
1:49:22 - Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis gyda Gruffudd Antur
2:10:25 - Y Newyddion Heddiw
21 November 2025, 5:20 pm
- More Episodes? Get the App